Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byddai ganddo ef ryw gân newydd yn fynych yn y Golofn Farddol." Ac erbyn i ni sylwi, yr oedd mwy o waith Idwal Ddu ar y "sgrîn nag odid o waith neb arall, ac eithrio Ceiriog a Mynyddog. Ef oedd awdur y gân boblogaidd

Cyfodwch y bin
Ar lawr sydd yn gorwedd;
Efallai bydd hyn
Yn dechrau anrhydedd.


A ydych yn ei 'nabod, Sadrac Jones?"

"Idwal Ddu?"

"Ie."

"Na, ni welais ef o gwbl. Ond yr wyf yn meddwl yn uchel amdano fel bardd. Pan welwch ei enw yn y 'Golofn Farddol' chwi ellwch fod yn sicr y bydd y Golygydd yn ei groesawu i "lethrau Parnasws," ac yn dweud—"Melus, moes mwy."

Ond yr oedd un peth arall na wyddem amdano ar y pryd oedd wedi effeithio'n ddistaw ar feddwl a barn Sadrac Jones. Beth ydoedd? Wel, dilynai'r bardd mwyn hwnnw yr un alwedigaeth ag ef ei hun! Crydd oedd Sadrac Jones, a dyna ydoedd Idwal Ddu—crydd a bardd!

A shoemaker, did you say?
Yes, what then?
A shoemaker and a poet?
True again!