PENNOD V.
"FFAIR GLAMAI.
UN ffair a gynhelid yn ystod y flwyddyn yn Llanaber, ond yr oedd honno yn ffair fawr a phoblogaidd. Adeg ei dyfodiad ydoedd mis Mai, a gelwid hi ar lafar gwlad yn "Ffair Glamai" (talfyriad, mae'n bosibl, o Galan Mai). Dyna ddull y wlad o siarad, cyn geni'r "orgraff newydd "i'r byd. "Ffair Glamai!"
Ac i'r cyfarwydd â hanes y pentre gwledig y mae swyn a barddoniaeth yn yr ymadrodd.
I blant y cyfnod hwnnw, dyna "Ffair y Byd." A byd go wych oedd y byd cyn y dilyw! Ac, fel y dywed haneswyr, teifl digwyddiadau mawr eu cysgod ymlaen. Disgynnai cysgod "Ffair Glamai" yn gynnar, a phrysurai olwynion bywyd a gwaith. Deffroai'r pentre o'i gwsg gaeafol; gwyngalchid y tai, a phaentid hwy yn holl liwiau'r enfys! Deuai gweithdy Sadrac Jones yn lle prysur iawn. Ni cheid hamdden i drafod barddoniaeth o gwbl, dim ond y lledr a'r esgidiau newydd. Gosodid y "sgrin" yn y gornel o'r neilltu, hyd ryw "amser cyfaddas," a phrin y cai Sadrac Jones hamdden i edrych dros ddalennau Utgorn y Bobl, yn ol ei arfer. Byddai mor brysur, ambell ddiwrnod, fel y byddai raid i "Nansi Owen " ei alw at ei "bryd bwyd."
"Y mae'r cinio'n oeri, Sadrac Jones; ac yr ydw i yn siwr eich bod bron a llwgu."
"Mi ddof ymhen ychydig funudau," dywedai Sadrac Jones, "wedi i mi roi'r pwyth olaf yn yr esgid yma."