Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond anghofiai wedyn, a deuai Nansi Owen o'r gegin i'r gweithdy.

"Welwch chi, Sadrac Jones, y mae'n rhaid i chi ddod at eich bwyd. 'D oes dim sens mewn gweithio am oriau heb yr un tamaid na llymaid. Mi fyddwch yn sâl, fel y buoch chi'r llynedd. Dowch at y bwrdd."

Ac wedi mynd i'r gegin, ond odid na ddywedai Nansi Owen fod yn rhaid iddo gael "gweithiwr i'w helpu". Yr oedd honno yn "hen stori," ond yn aros yn yr unfan y naill flwyddyn ar ol y llall.

"Rhaid i ni gysidro'r peth," dywedai Sadrac Jones. "Peth anodd iawn ydi taro ar weithiwr da."

Un hynod am 'gysidro' oedd Sadrac Jones. Dichon mai hynny oedd y rheswm ei fod yn para arwain bywyd "sengl." Anogai pobl hoff o ymyrryd â materion rhai eraill ef i briodi; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gael amser i "gysidro," a 'd oedd hwnnw byth yn dod i ben!

Ac felly gyda'r "gweithiwr" oedd i'w gynorthwyo. Deuai'r mater hwnnw i'r "bwrdd " yn gyson bob blwyddyn o flaen "Ffair Glamai," ac yna aros ar yr agenda am flwyddyn arall. Dyna'r drefn arferol,—Nansi Owen yn cyflwyno'r mater i sylw, a Sadrac Jones yn "cysidro."

Ond, wedi'r gweithio didor am wythnosau, dyna adeg y ffair yn nesau. Y dydd o'i blaen codai'r diddordeb i bwynt uchel, a "thorrid " yr ysgol ddydd yn gynnar yn y prynhawn. Pa ddiben oedd "cadw ysgol" a'r plant yn hanner gwallgof gan awydd am weld y "rhyfeddodau " a gludid i'r ffair? Dyna lle