byddai pob math o gertwyni a wageni, yn cael eu tynnu gan bob rhywogaeth o greaduriaid, a'r sŵn yn fyddarol! Codid stondinau ar yr heol, a phebyll yn y maes cyfagos. Yr oedd Llanaber yn lle gogoneddus ar "Ffair Glamai"; a chredai rhai o'r hen drigolion, na fuont erioed allan o'r plwy', nad oedd hanner cymaint o bobol yn Llundain ag a welid yn Llanaber ym mis Mai.
Ond ni cheir y rhosyn heb y drain. Ac y mae'n rhaid cydnabod fod yno un peth yn "Ffair Glamai oedd yn ddraen i Sadrac Jones. Beth ydoedd? Ai'r difyrrwch a'r chwareuon? Nage, yr oedd Sadrac Jones yn ddigon ieuanc ei ysbryd i fwynhau pethau o'r fath. Ond arferai rhyw ddieithriaid ddod i'r ffair i werthu esgidiau "parod "—ready made. A themtiai eu rhadlonrwydd bobl i'w prynu. Meddylient eu bod yn cael "bargen," ac y mae rhyw duedd ryfedd yn y natur ddynol i brynu os bydd "bargen" i'w chael.
Nid ai Sadrac Jones i'r ffair, rhag iddo gael ei boeni gan yr estroniaid teithiol hyn a werthai nwyddau heb dalu na rhent na threth. Ond ai Nansi Owen yno yn fwy fel detective na dim arall. Gwelid hi yn sefyll ar gwr y dorf yn ymyl stondin yr "esgidiau parod," ac yn gwylio pwy fyddai yn prynu, ac, wrth gwrs, yn talu. Rhaid oedd gwneud hynny yn y ffair. "Un pris, ac arian parod"-dyna'r arwyddair. Ac wedi dod adref dywedai'r hanes.
"Yr ydych yn rhy ffeind o lawer, Sadrac Jones. Yr ydych yn gwneud esgidiau dan gamp, ac yn gorfod aros am fisoedd am dâl, ac mi welais y bobl hynny