Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.
NANSI OWEN.

Y MAE drama bywyd yn bod yn y pentre gwledig, tawel, fel yn y ddinas fawr a phoblog. Dichon nad oes ynddi nemawr o olygfeydd cyffrous ac anghyffredin yn y pentre, ac nid ydyw ei chylchdro ond bychan a chyfyngedig. Ond i'r sawl a fedd lygad i weled, a chlust i wrando, y mae rhyw ddiddordeb diddarfod mewn bywyd ym mhob man. Ac un o'r rhai gorau am sylwi a thynnu casgliadau oedd Nansi Owen y Llofft. Nid oedd yn arfer crwydro o dŷ i dŷ, ac ni pherthynai i'r tylwyth atgas a ddyfeisia chwedlau, a'u lledaenu yn llechwraidd a maleisus. Pe felly, ni fuasai yn gymeradwy gan Sadrac Jones; yr oedd ef wrth reddf natur yn casau enllib a chelwydd â'i holl galon. Ceuai ei glustiau rhag gwrando ar gelanedd, a ffieiddiai y sawl a wnai ddrwg i'w gymydog.

Ond sylwai Nansi Owen. Dyna ei harfer. Nid o ran chwilfrydedd yn unig y gwnai hynny, ond am fod y ddawn ganddi. Yn oriau ei hamdden, ac ar dywydd haf, eisteddai yn y gadair wellt yn ymyl ffenestr y Llofft. Ni byddai'n segur. Byddai'r "hosan" ganddi, a'r gweill disglair yn clecian rhwng ei bysedd. Ond medr rhai pobl ddiwyd wneud mwy nag un peth yn gydamserol. Gallai Nansi Owen wau, a sylwi yn ddi-goll. Yr oedd golygfa ddymunol o flaen ei llygaid. Ni flinai ar honno. Gwyddai am bob cae, gardd a bwthyn yn y fro. Sylwai ar y meysydd a'r llechweddau. Hyfryd fyddai cael ein gwahodd