mewn cell. A phan gafodd y drws yn agored, aeth ymaith i'w fyd ei hun. Bu tipyn o sôn am y peth dros dymor, ond daeth rhywbeth arall i fod yn destun siarad y pentre. Symudodd Nansi Owen o'r bwthyn ar fin y ffordd i'r Llofft, i weini ar Sadrac Jones. Llithrodd blynyddoedd ymaith; ond ni ddaeth gair o hanes y bachgen, Lewis Owen. Diflannodd y cof amdano yn yr ardal—dyna hanes y byd, popeth yn "myned heibio," a rhywbeth arall yn cymryd ei le. Nid felly yng nghalon mam."
Yr oedd hi'n disgwyl o hyd. A phan welai rywun dieithr yn ymlwybro i'r Pentre, deuai rhyw olau i'w llygad, a churai ei chalon yn gynt." Ac er ei siomi filwaith, ni flinai ddisgwyl.
PENNOD VII.
"BETH SYDD MEWN ENW?"
Ni feddai pentre Llanaber unrhyw hynodion allanol. Yn y pethau hyn yr oedd yn eithaf tebyg i lawer pentre arall. Rhedai dwy ffordd trwyddo ar ffurf croes. A phe buasech yn cychwyn o'r canolbwynt—rhyw sgwâr fechan-gallasech gyfeirio eich camre i'r un a fynnech o bedwar pwynt y byd! Cychwynasai aml un, ond nid aethant yn bell. Nid oedd ysbryd anturio yn gryf yn y trigolion. Dyna un gwahaniaeth rhwng pentre yn y wlad a phentre ar lan y môr. Huda cyfaredd yr eigion fechgyn y pentrefi ar finion y lli. Y mae antur yn berwi yn eu gwaed. Ond erys plant y