bythynnod a'r ffermydd gwledig yn eu cynefin, os gellir cael gwaith ar eu cyfer. O'r hyn lleiaf, felly yr ydoedd pethau gynt cyn i gyfleusterau teithio ymestyn i fannau oedd, i raddau, allan o olwg y byd. Cyfarfyddai'r bechgyn fin nos ar y sgwâr—croesffordd y pentre. Lle difyr oedd hwnnw. Rhyw argraffiad bychan oedd, mewn preint mân, o "Trafalgar Square," Llundain.
Yng nghanol y pentre yr oedd Eglwys y Plwy, a'r fynwent, â muriau uchel, hynafol, o'u hamgylch. Yr oedd y porth a'r "garreg farch" yn "siarad am hen amseroedd." Yr oedd delw hynafiaeth ar bopeth—y tô mwsoglyd, tŵr y gloch, a'r coed yw a estynnai eu cangau llaes dros "briddellau'r dyffryn." Ac eto ni wnai presenoldeb yr eglwys a'r fynwent mo'r pentre yn lle pruddglwyfus. Os oedd distawrwydd oddimewn i'r muriau yr oedd digon o dwrw ac afiaith oddi allan, pan ddeuai'r plant ynghyd ym min yr hwyr ar nos o haf-hirddydd haf! Y maent wedi chwalu erbyn heddiw—ambell un wedi mynd ymhell ac wedi gweld rhyfeddodau'r dinasoedd mawrion. Ond ar ambell funud breuddwydiol, rhoddent lawer am awr neu ddwy ar sgwâr y pentre bach—"Trafalgar Square," yn wir, peidiwch â sôn! Yng nghalon plentyn y mae sgwâr y pentre'n fwy ardderchog na dim a wêl ar daith droellog bywyd.
Ac wrth feddwl am y plant fu'n chwarae ar un cyfnod o gwmpas y "garreg farch" y tu allan i furiau mynwent y plwy, ni allwn lai na sylwi bod eu henwau-yr " enw bedydd "—yn enwau ysgrythyrol, wedi eu benthyca o'r Hen Destament a'r Newydd. Nid aent mor bell yn ol ag "Adda," ond yr oedd