"Abram" yn eu plith. Ac yn eu tro ymhlith y lliaws deuai, Moses, Samuel, Ruth, Abigail, Dafydd, Solomon, a nifer o'r proffwydi. Sut y digwyddodd hyn?
Tybed mai dylanwad y Rhodd Mam ydoedd? Holid ac atebid "pennod yr enwau" yn fynych yn yr Ysgol Sul:
"Pwy oedd y dyn llarieithiaf?—Moses."
"Pwy oedd y dyn cryfaf?—Samson."
Nid anturiodd neb roddi enw "Samson" ar restr y plant, a chryn gamgymeriad oedd gosod enw "Solomon" ar fachgen na ddaeth i fysg y "doethion" yn ei ddydd.
Yr unig eithriad i'r rheol o roddi enwau Beiblaidd ar y bechgyn a'r genethod yn yr ardal oedd tylwyth Huw William y Felin. Yr oedd ef yn hanesydd o gryn fri, a darllennai lawer. Ei brif bwnc oedd y Diwygiad Protestannaidd, a chai enwau'r Diwygwyr a'u gwaith le mawr yn ei ymddiddanion. Dywedir bod y melinydd yn dueddol i droi'r "dŵr at ei felin ei hun." Digon tebyg. A medr ambell un nad ydyw felinydd wneud y gwaith hwnnw yn bur ddeheuig. Ond yn hanes Huw William arweiniai pob ymgom yn y Felin, a phobman arall, i'r un man. Gallai'r sgwrs gychwyn gyda phris yr yd, a sŵn y malu, ond byddai Huw William yn rhoi' "tro ar yr olwyn," ac yn dechrau sôn am y "Diwygiad Protestannaidd." Felly y gwnai hefyd ar y Saboth. Pan fyddai brawd yn "holi'r pwnc" yn yr Ysgol Sul ai Huw William at y "gair a'r dystiolaeth" yn ei farn ef,—yr hen esbonwyr, "hen ŷd y wlad."