Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o'r tri sydd wedi aros yn yr ardal yma. Aeth 'Mesac' i gadw busnes i un o drefi Lloegr. Y mae 'Abigail' wedi ymfudo i'r Merica ers blynyddoedd, ac wedi dod ymlaen yn dda iawn. Hi oedd yr ieuengaf ohonom—tua'r un oed â Lewis, bachgen Nansi Owen. Aeth yntau i ffwrdd i rywle pell, ond hwyrach y daw yn ol."

PENNOD VIII.
HELA'R LLWYNOG.

TRINID llawer o bethau yng ngweithdy Sadrac Jones. Os oedd Llanaber i gryn raddau o olwg y byd, deuai "helynt y byd hwn" yno, ar ei dro, fel yr ymlêd tonnau'r môr i gilfachau pell. Parai ei dyfodiad gyffro a siarad, ac am ennyd newidiai bywyd ei liw a'i flas. Un o'r digwyddiadau cynhyrfiol hynny oedd yr hunt, fel y gelwid y peth ar lafar gwlad. Ystyr hynny ydoedd "hela'r llwynog." Ac yr oedd Llanaber, neu yn hytrach, yr ardal o amgylch, yn digwydd bod ar lwybr yr ymgyrch, fel y mae ambell bentref heddiw ar y main-line i'r brifddinas. Ond nid oedd time-table dyfodiad yr hunt mor sicr ag eiddo'r ffordd haearn. Dibynnai cwrs yr helfa i gryn fesur ar y llwynog ei hun! Gallai ef gymryd ei lwybr ei hun, oherwydd y mae, yn ol barn y cyfarwydd amdano, yn greadur llawn o ddyfais ac athrylith. Pe amgen, ni fuasai'n werth ei "hela " o gwbl. Gadewir y dôf a'r gwâr yn llonydd, ond am y gwyllt