a'r anturus rhaid ei "hela" ef ym mha le bynnag y bo. Yr oedd rhai o drigolion Llanaber mewn cydymdeimlad â'r llwynog,' a phe gwelent ef ar ffo o flaen ei erlidwyr, ni cheisient ei atal ar ei hynt. Rhoid chwarae teg iddo ddianc, os gallai. Pob peth a ddyry LLWYNOG am ei einioes. Yr oedd eraill yn wahanol, ac yn orawyddus am iddo gael ei ddal a'i flingo, am y credent iddo fyrhau einioes ieir a gwyddau yn yr ardal.
Ond yr oedd un peth yr oedd pawb oll yn unfryd amdano, ac yn awyddus i'w weld drostynt eu hunain, nid amgen, yr olygfa a geid am ychydig o amser ar ddydd mawr yr "hela llwynog."
"Ydach chi'n meddwl y daw yr hunt ffor' yma, Sadrac Jones?"
"Y mae yn siwr o ddwad, oni bydd y llwynog wedi ei ddal yng Nghraig y Garth."
"Ydach chi am weithio fory?"
"Dim strôc, nes bydd yr hunt wedi mynd o'r golwg. Ond rhaid i chi beidio â myddaru fi heddiw. Rhaid i mi orffen y pâr sgidia yma cyn nos. Ewch at y sgrîn yna. Welwch chwi gân yn y gornel bella—Cerdd Hela' y gelwir hi?"
"Dyma hi, Sadrac Jones. Pwy a'i gwnaeth
"Edrychwch ar yr enw sydd yn y gwaelod. Beth ydi o?"
"John Blackwell (Alun)."
"Ie, siwr. A chrydd oedd yntau cyn iddo fynd yn berson plwy. 'Rwan, darllennwch dipyn o'r gân a wnaeth o pan arosai'n Sir Drefaldwyn."
Ninnau yn darllen:—