gostegwyd y cŵn gan yr helsman.' Yna cychwynnwyd eilwaith i gyfeiriad gwahanol, ac aethant o'n golwg.
"Waeth i ni heb aros yma yn hwy," ebe Sadrac Jones. "Yr ydym wedi gweled y cwbl sydd i'w weld heddiw."
Yr oedd y gyfaredd drosodd, a ninnau'n cofio bod arnom eisiau bwyd!
Drannoeth adroddai'r plant eraill eu hanes-rhai ohonynt yn byw yn lled bell o'r pentre. Yr wyf yn cofio stori Dafydd Glandŵr. Cymerasai ef ei safle ar ben llidiart yn agos i'w gartref. Daeth yr helwyr ar draws y cae fel corwynt, a phob un yn rhoddi naid dros y clawdd drain. Ond yr oedd yno un boneddwr hŷn na'r lleill. Daeth ef ar hyd y ffordd oedd yn pasio tŷ Glandŵr. Neidiodd Dafydd i lawr, ac agorodd y llidiart.
"Diolch i chwi, 'machgen i," ebe'r hen fonedd
"Mi fûm innau yn medru neidio dros bob gwrych a chlawdd, ond y mae'r amser hwnnw wedi mynd drosodd."
Estynnodd ei law, a rhoddodd bisin chwecheiniog i Dafydd am agor y llidiart—"chwech gwyn."
"Gwell i ti adael i mi gadw hwn," ebr ei fam, "i gofio am y diwrnod, a'r gŵr bonheddig ffeind."
"Gaf fi fynd a fo i'w ddangos i'r bechgyn yn yr ysgol?" ebe Dafydd.
"Cei, siwr; ond gofala am beidio â'i wario."