theimlai ddim archwaeth at fwyd, ac yr oedd Nansi Owen wedi mynd i ofni amdano. 'Dydi o'n bwyta dim mwy na chyw deryn," meddai, "a dim rhyfedd, chwaith; sut y gall dyn gael blas ar ei ymborth ac yntau'n aros yn yr hen weithdy yna o fore i hwyr yng nghanol arogl lledr a chŵyr crydd? Mi ddyle fynd allan yn amlach; ond waeth i mi heb ddeud wrtho. Dowch at eich swper, Sadrac Jones."
Wyddoch chi beth, Nansi Owen, mi fuaswn yn rhoi cryn lawer pe cawswn i fenthyg stumog Twm Pirs." **** Yr oedd pawb yn yr ardaloedd yn adnabod Twm, ac ni fyddai neb yn gâs wrtho. Deuai yn ei dro, tua'r un adeg, y naill flwyddyn ar ol y llall. O ran ei olwg, nid oedd nac yn ieuanc nac yn hen. Yr oedd yn drwm o gorff, â wyneb fel lleuad lawn, a cherddai'n araf a phwyllog Ni welwyd ef yn rhedeg erioed, canys nid oedd arno eisiau dal y trên na dim arall. Un o'r gwŷr traed oedd Twm Pirs, ac yr oedd ei esgidiau yntau, fel yr eiddo cenedl Israel yn yr anialwch, yn gorfod gwisgo'n hir. Trwsiai Sadrac Jones dipyn arnynt pan ddeuai Twm ar ei ymweliad blynyddol â'r gweithdy. Rhoddai eraill iddo hen ddillad wedi eu "troi heibio," a chan nad oedd gan Twm ystafell i'w cadw cludai'r cwbl amdano, ac ymddangosai fel siop ddillad symudol. Sut y medrai gerdded â'r fath lwyth oedd ddirgelwch i bawb ond iddo ef ei hun. Golwg digon afluniaidd oedd arno, ond yr oedd mor ddiniwed fel yr oedd pawb yn hollol dawel. Ni lechai'r plant o'r neilltu pan ddeuai Twm at y tŷ, a chaniatâi hyd yn