Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oed y cŵn iddo fynd a dod trwy'r buarth. Dichon y dechreuai ambell gi gyfarth, a rhuthro at y llidiart. Ond, wedi sylwi, deuai yn ol, fel pe yn dweud wrtho ei hun: "Dim ond Twm Pirs sydd yna; nid yw yn werth ei gyfarth ef."

Cai Twm fwyd a llety yn rhad, ond edliwiai rhai o'r ffermwyr iddo na wnai ddim i dalu am ei fwyd. Ac un tro tybiodd John Llwyd, Dôl Gam, y gallai berswadio Twm Pirs i fod yn ddefnyddiol. Yr oedd y brain fel pla yn y cae lle'r oedd y maip a'r rwdins. Ai John Llwyd at y gwrych gyda'i wn, a thaniai ergyd. Chwalai'r fintai am ennyd, ond gwyliai'r pickets y dyn â'r gwn, ac wedi iddo droi ei gefn rhoddent arwydd i'r fintai fod y maes yn glir.

Meddyliodd am fynd ati i lunio yr hyn a elwir yn "Fwgan Brain," a'i wisgo â hen ddillad a het fawr. Ond daeth Twm Pirs yno ar ei dro, ac wedi treulio noson yn y sgubor a chael breswast aeth at y tŷ i ddiolch am ei fwyd, yn ol ei arfer. Dyna gyfle John Llwyd wedi dod.

"Hoffet ti wneud rhywbeth i'n helpu gyda gwaith y fferm yma, Twm?"

"Beth fedra i wneud, mistar bach?"

"Dim ond mynd i'r cae maip acw i ymlid y brain i ffwrdd. Y cwbl sydd eisiau i ti wneud ydi sefyll yng nghanol y rhesi maip ac ysgwyd dy freichiau. phan glywi di'r corn cinio tyrd i'r tŷ i fyta efo'r gweision, ac mi gei chwecheiniog y dydd am dy waith."

"O'r gorau," ebe Twm Pirs.

Aeth i'r cae, ac yr oedd yr olwg arno yn ddigon i ddychryn y brain. Yr oeddynt yn gyfarwydd â