Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"bwgan," ond ysgydwai hwn ei freichiau, a medrai droi ei ben i edrych arnynt. Ond yr oedd y bore yn desog a mwll, a daeth rhyw drymder i lethu Twm Pirs. Methai â chadw ei lygaid yn agored, ac yn raddol a diarwybod iddo'i hun syrthiodd i'r llawr, a gorweddodd rhwng y rhesi maip. Aeth yr oriau heibio; canodd y corn cinio," ond nid oedd hanes am Twm. Aeth John Llwyd i olwg y cae maip; gwelai'r brain wedi disgyn yn gatrodau duon, ac yn difa'r cnwd.

Ple'r oedd Twm, tybed? Dichon iddo flino ar ei swydd, ac ymado i rywle arall. Dychwelodd John Llwyd i'r tŷ. Cymerodd y gwn ar ei ysgwydd, a chyfeiriodd dan gysgod y clawdd i ymyl y cae. Taniodd ergyd. Cododd y brain ar eu hedyn. Deffrodd Twm o'i drwmgwsg, a chododd ar ei eistedd.

Dyna ergyd arall! Chwalai'r mwg glas uwchben y llecyn yr oedd Twm wedi dihuno ynddo, a chredai yntau ei fod wedi ei glwyfo yn farwol. "Yr ydw'i wedi fy saethu'n gelain," meddai, a disgynnodd yn ddiymadferth rhwng y rhesi maip. Gorfu i John Llwyd fynd yno i'w godi, a gwaith mawr oedd ei berswadio y gallai gerdded cam.

Methiant oedd Twm Pirs ym mhob cylch o fywyd. Methiant fu fel "hogyn gyrru'r wedd" oes, a methiant fu fel "bwgan brain."