Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.
"Y SAMARITAN."

YN nyddiau mebyd ni wyddem nemawr am un pentre ond yr un yr oeddym yn byw ynddo. Nid oedd oes y charabancs, a'r gwibdeithiau pell wedi gwawrio, ac nid oedd trip—y gair clasurol hwnnw!—wedi ei gysylltu a'r Ysgol Sul. Rhoddai ambell un hael ei galon wledd o dê a bara brith i'r plant, ac enillent anfarwoldeb yn eu golwg hwy! Ond, yn y dyddiau hynny, ychydig o "fara brith" a welid ar ford y werin. Ni chyfaneddai nemawr o gyfoethogion yn ardal Llanaber. Yr oedd y lle yn rhy ddinod. Fe ddichon bod gŵr Plas Teg yn eithriad. Yr oedd ef yn dir-feddiannydd, ac yn berchennog y Felin Wen. Ef a gynrychiolai'r plwy fel Gwarcheidwad, ac ef yn unig a dderbyniai llythyrau â'r gair "Ysw." ar yr amlen—"Joseff Lloyd, Ysw." Derbyniai Sadrac Jones ambell lythyr wedi ei gyfeirio fel hyn: "Mr. Sadrac Jones, Shoemaker, Llanaber." Methem ni'r plant â deall y dirgelwch. Ond dywedai Sadrac Jones mai felly yr oedd yn briodol. Derbyniai gŵr y Plas Teg y teitl yn rhinwedd ei swydd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid.

"Y mae yna wahaniaeth go fawr rhwng gwaith a swydd," ebe Sadrac Jones, "er eich bod chwi yn rhy ifanc i wybod am bethau dyrys o'r fath. Meddyliwch amdanaf fi yn gwneud esgidiau,—gwaith ydi hwnnw, a gwaith lled galed, hefyd. Ond swydd ydi bod yn Guardian y plwy, ac y mae'n rhaid cydnabod