Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y peth. Fydd neb yn rhoi "Mr." o flaen fy enw i, ond ar gâs llythyr; ond pe buasech yn anfon llythyr at ŵr Plas Teg, ac yn anghofio rhoi "Ysw." ar ol ei enw, wn i ddim beth fuasai'n digwydd. Y mae'r gyfraith yn fanwl iawn gyda phobl mewn swydd."

Arferai gŵr arall ddod i Lanaber unwaith yn yr wythnos, ac yr oedd yntau yn dal swydd bwysig yn enwedig i'r bobl dlodion—ynglŷn â Bwrdd y Gwarcheidwaid. Ei enw ar dafod yr ardal oedd "Mistar Mason," ac ef oedd y swyddog elusennol," neu, a siarad yn iaith y pentre, y "Lifin-Offis." Dyn tal, main, a golwg llym arno ydoedd ef, ac yn siarad yn uchel ac awdurdodol. Arferai gymryd ystafell ar gornel y pentre, ac yno y deuai'r "tlodion," yr afiach, y llesg, gweddwon ac amddifaid, i dderbyn eu dogn wythnosol o'r "plwy." Nid oedd ond bychan ddigon, canys ni ddaethai "blwydd-dal yr hên" i fod am lawer blwyddyn wedi hynny. Ni hoffai neb fynd at y "Lifin-Offis " hwnnw, ond rhaid i'r tlawd geisio anghofio ei deimladau yn fynych. Fe ddichon y cwynai ambell un fod y pau" (pay) yn ychydig, a'i fod yntau yn methu â chael ymborth ac ymgeledd dyladwy. Ond yr oedd gan y "Lifin Offis" ffordd effeithiol i ddistewi'r cyfryw rai, ac i osod ei arswyd arnynt. "Onid ydych yn fodlon ar eich siâr," meddai, "'d oes dim i'w wneud ond anfon ordor i chi fynd i'r workhouse." Dyna ystyr y peth, ond gair byrrach a ddefnyddiai'r swyddog,—Rhaid i chi fynd i'r 'Hows.'" Ac yr oedd ar bawb fyddai " ar y plwy" ofn y lle hwnnw. "Mynd i'r 'Hows'!" Gwell fuasai marw ar fin y ffordd. Dyna'r argraff oedd yn bod cyn gweddnewid y workhouse