"Druan ohono," ebe rhywun o'r heol; "dyna'r lle gorau iddo fo, os caiff o fyw i fynd yno."
Rhedodd un o'r bechgyn i ddweud y newydd wrth Sadrac Jones, a gwelwodd ŵyneb Sadrac.
"Twm Pirs wedi ei daro'n sâl! Ble mae o, rwan?"
"Yn sgubor Cae Glas, ac y mae nhw am fynd a fo i'r Hows."
'Na, chaiff Twm Pirs ddim mynd i'r fan honno," ebe Sadrac Jones.
Ac yna galwodd ar Nansi Owen.
"Y mae arnaf eisiau i chwi wneud cymwynas," meddai. "Trefnwch y gwely sydd yn y stafell wag, a gwnewch y lle mor gysurus ag y medrwch.
Twm Pirs wedi ei daro'n wael iawn, ac y mae nhw yn trefnu i fynd a fo i'r 'Hows.' Ond chaiff o ddim ei lusgo i'r lle hwnnw. Mi âf i'w nol o yma, ac mi wnawn ein gorau iddo fo."
Yr oedd Nansi Owen fel un wedi ei syfrdanu. Tybed fod Sadrac Jones wedi mynd o'i bwyll? Ond y cwbl a ddywedodd oedd, "Mi wnaf bopeth a fedraf i wneud y lle'n barod."
Aeth Sadrac Jones i'r gwesty, a llogodd gerbyd. Yna aeth rhagddo i'r Cae Glas. Yr oedd Twm Pirs wedi agor ei lygaid, a daeth rhyw oleuni rhyfedd i'w wyneb llwyd, er na allai yngan gair. Codwyd ef yn dyner i'r cerbyd, ac wedi iddynt gyrraedd tŷ Sadrac Jones dodwyd ef i orwedd ar wely esmwyth yn yr ystafell wag. Ac yno y bu am wythnosau, a'i fywyd fel pendil cloc yn symud ol a blaen ar ffiniau deufyd.