PENNOD XI.
YR ESGID A'R GAN.
YR oedd Sadrac Jones wedi cyflogi gweithiwr. Buasai'r peth yn ei feddwl lawer tro, yn enwedig ar adeg brysur yn ei hanes. Ond gohirio'r drafodaeth fyddai'r diwedd. Nid hawdd oedd ganddo wneud cyfnewidiad yn ei ddull o fyw. Ond, fel rheol, digwydd pethau o'r fath yn sydyn ac annisgwyliadwy. Yr oedd Sadrac Jones yn brysurach nag arfer. Y mae'n debyg i'w gymwynas garedig i Twm Pirs yn ei waeledd effeithio'n ddistaw ar bobl yr ardal. Gwyddai pawb ddarfod iddo aberthu llawer mewn amser a chysuron i gynorthwyo'r truan a'r anghenus. Fodd bynnag, yr oedd y llanw yn troi o'i du, a chwsmeriaid newydd yn dod ato yn feunyddiol. Ac eto ni chymellai Nansi Owen ef, yn ol ei harfer, i geisio gweithiwr. Fe ddichon ei bod hi wedi blino ar y gorchwyl, gan deimlo bod y "bregeth" yn hollol aflwyddiannus. Ond, ryw fore, daeth dyn dieithr at ddrws y gweithdy, a gofynnodd am waith.
"Dowch i mewn," ebe Sadrac Jones. "A ydych yn gyfarwydd â gwaith crydd gwlad?"
"Ydwyf," ebe'r dyn. "Yr wyf wedi gweithio'r grefft mewn gwlad a thre, ac yn gwybod y gwaith sydd yn eisiau mewn ardal wledig fel hon."
Faint o gyflog ydych yn ei ofyn?"
"Cewch chwi benderfynu hwnnw," ebe'r dyn, "yn ol gwerth y gwaith. Yr unig beth wyf yn awyddus i'w gael ydyw ymborth a llety, a thipyn o hamdden gyda'r nos."