"Yr wyf innau yn hoffi hamdden," ebe Sadrac Jones, "ond yn methu â'i gael. Gorfod bod wrthi yn hwyr yn fynych; ond, os gallwn gytuno ar delerau, dichon y bydd yn haws cadw oriau mwy rhesymol."
"Felly y gweddai i bethau fod," ebe'r dyn. "Ni ddylai un crefftwr fod yn gaethwas i'w orchwyl, beth bynnag a fo; y mae eisiau hamdden i ddarllen a meddwl, a gweld natur yn ei hamrywiaeth a'i golygfeydd."
Edrychodd Sadrac Jones ar y dyn. Mynegai'r hyn a deimlai ef ei hun. Hawdd i enaid dyn gael ei grebachu ym myd y pethau a berthyn i "fara beunyddiol," a cholli golwg ar y byd ehangach—byd gweledigaethau diddarfod.
"Pryd y gellwch fod yn barod i ddechre ar y gwaith?" ebe Sadrac Jones.
"Y funud hon," ebe'r dyn.
Tynnodd ei got, a chymerodd ffedog ledr o'r ysgrepan a ddodasai ar lawr y gweithdy.
"A wnewch chwi orffen yr esgid yma?" ebe Sadrac Jones, "ac af innau i'r tŷ i drefnu pethau gyda Nansi Owen." Troes yn ol wedi cyrraedd y drws,—"Esgusodwch fi am ofyn,—beth yw eich enw?"
"Edward James. A oes arnoch eisiau gwybod rhagor?"
"Dim byd," ebe Sadrac Jones.
Yr oedd Nansi Owen yn eithaf balch ei fod wedi cyflogi gweithiwr. Dylasai fod wedi gwneud hynny ers talwm. Ond onid gwell fuasai cael rhywun yr oedd yn ei adnabod? Yr oedd eisiau bod yn ofalus, a'r dyn yn hollol ddieithr.