Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y mae hynny'n wir," ebe Sadrac Jones; "ond y mae rhywbeth yn dweud wrthyf mai Rhagluniaeth a'i gyrrodd o yma.

"Gobeithio eich bod yn dyfalu'n gywir," ebe Nansi Owen.

Profodd Edward James ei fod yn weithiwr cyflym a chelfydd. A rhoddai ei ymddygiad yn y tŷ fodlonrwydd mawr i Nansi Owen. Yr oedd mor syml a dirodres. Ni pharai na thrafferth na blinder. A phan ymgomiai gyda Sadrac Jones wrth y tân gyda'r nos, edrychai Nansi Owen arno dros ei hysgwydd, a meddyliai am y bachgen a aethai i ffwrdd ers llawer dydd. Mae'n wir nad oedd yn debyg iddo o ran pryd a gwedd. Gwallt golau oedd gan Lewis gwallt du, cyrliog, oedd gan Edward James. Ond parai'r olwg arno wrth y tân iddi freuddwydio breuddwydion,—anfarwol ydyw cariad mam!

Yn ei dro, siaradai Sadrac Jones am feirdd a barddoniaeth. Rhyfeddai braidd na sylwasai Edward James ar y "sgrîn" yn y gweithdy, er nad oedd wedi ei chyffwrdd ei hun yn ddiweddar, am fod y gwaith" yn llanw ei amser o fore hyd nos. Ond, yn ddiarwybod iddo ef, sylwasai Edward James ar y cynhyrchion " barddonol a orchuddiai'r "sgrin," a dichon iddo wenu 'n ddistaw, wrtho ei hun. Onid oedd darnau barddonol o'i waith ef wedi eu pastio'n ofalus ar y "sgrîn"? Ychydig a wyddai ef am Lanaber pan anfonai hwynt i'r wasg. A llai fyth y gwyddai am berchen y "sgrîn." Cadwodd y "gyfrinach" am gryn amser. Nid oedd ef, megis y mae arfer rhai, yn orawyddus am hysbysu eraill am ei