orchestion" awenyddol. Ni soniai beunydd am ddrychfeddyliau," ac ni synnai'r anghyfarwydd â geiriau swnfawr, megis "crebwyll darfelydd."
Gallai ymddiddan am feirdd a barddoniaeth fel dyn cyffredin, heb fradychu ei hunan-bwysigrwydd. Nid oedd Sadrac Jones wedi meddwl bod ei "weithiwr " yn fardd "wrth fraint a defawd." Ond daeth i wybod ar ddamwain. Rhyw "ddarganfyddiad " oedd hynny yn fwy na dim arall.
Crybwyllasom mewn pennod flaenorol mai newyddiadur dewisol Sadrac Jones ydoedd Utgorn y Bobl. Darllennai ef bob gair, ond ei flasusfwyd ynddo oedd y "Golofn Farddol."
Ryw fin nos eisteddai Sadrac Jones yn ei gadair i ddarllen Utgorn y Bobl. Aethai Edward James, yn ol ei arfer, am dro i'r ffriddoedd, gan ddilyn llwybrau'r defaid i froydd y rhedyn a'r grug. Wedi bwrw golwg ar "newyddion yr wythnos" a'r "erthygl arweiniol," daeth Sadrac Jones at y "Golofn Farddol." Disgynnodd ei olygon ar ddernyn disgrifiadol—"Hen Felin Llanaber," a hoffodd ef yn fawr. Gwyddai am y lle er yn fachgen, ac yr oedd y darlun awenyddol yn dyner ac yn dlws.
Ar waelod y dernyn yr oedd yr enw "Idwal Ddu." Gollygodd y newyddiadur ar y bwrdd. "Idwal Ddu!" onid oedd darnau o'i waith ar y "sgrîn"? Aeth i'w chyrchu o'r gweithdy i'r gegin. Darllennodd amryw o ganeuon "Idwal Ddu" wrth olau'r gannwyll. Ond anfonesid y rheiny o rannau eraill o Gymru. A oedd mwy nag un "Llanaber"? Ond, a chaniatau hynny, beth am yr "Hen Felin"? Rhaid fod yr awdur wedi gweld honno; pe amgen,