PENNOD XII.
NADOLIG Y PENTRE.
YN y dyddiau fu, ni wyddai pobl a phlant Llanaber nemawr ddim am "ddyddiau gŵyl," ac eithrio'r Saboth a'r Dydd Diolchgarwch am y Cynhaeaf. Ni ddaethai Gŵyl y Banc yn ddefod gwlad a thref. Ond cydnabyddid Dydd Nadolig gan bob gradd. Caeid y siop a'r gweithdy yn ystod y dydd hwnnw. Ac, fel rheol, byddai'r tywydd yn gydnaws â'r adeg, a'r pentre wedi ei orchuddio gan eira. Edrychai'n dlws iawn, ac ni chŵynai neb ar gyfrif yr oerni. Canai Cloch y Llan yn y plygain, a byddai bywiogrwydd ar bob aelwyd y bore hwnnw. Rhaid addef na wyddem ddim am yr ymwelydd poblogaidd a elwir yn "Santa Claus." Nid oedd ei gylchdaith ef, y pryd hwnnw, yn cyrraedd Llanaber, ond yr oedd ei ysbryd yno, er bod ei enw yn ddirgelwch. Darperid anrhegion yn ddistaw bach, a dygid hwy i'r golwg ar fore Nadolig. Syml oedd bywyd, a chyffredin oedd yr amgylchiadau. Ychydig o'r plant fuasai'n fodlon newid eu haelwyd fach eu hunain am yr eiddo arall. A ydyw pethau yn aros felly ni wyddom. Ond dysgwyd i ni feddwl mai gŵyl yr aelwyd a'r cartre yw'r Nadolig. "'D oes unman yn debyg i gartref," yr adeg honno.
Dyna oedd syniad Sadrac Jones; ond gwahoddai'r plant a arferai fynd i'r gweithdy i'r gegin fawr yn ystod y dydd. Ac ni cheid neb yn "esgeuluso ei gyd-gynulliad" ar yr achlysur hwnnw. Gwyddem ymlaen llaw y byddai Sadrac Jones wedi darparu