Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhywbeth ar ein cyfer. Yr oedd yn adnabod y plant—yn deall eu nodweddion; a chyfaddasai'r anrhegion yn ol y wybodaeth oedd ganddo amdanom. Dywed y Rhodd Mam, yr hen Rodd Mam, fod "plant da yn hoff o lyfr." Mae'n debyg eu bod, fel rheol, ond y mae llawer eithriad. Nid apelia llyfr at bob plentyn, mwy na phob dyn mewn oed, yr un fath. Nid ydyw darllen yn nwyd i bawb, er bod darllen yn anhepgor i gasglu gwybodaeth. Ond deallai Sadrac Jones y gwahaniaeth, ac amrywiai'r anrhegionllyfr i un a chyllell boced i'r llall. Ond pan rannai'r cyflath," a thamaid o'r "plwm pwdin," byddai pawb ar yr un tir. Dyna'r pethau yn nyddiau mebyd, sydd yn lefelu bywyd, ac yn profi gwirionedd llinell Dewi Wyn,—" Brodyr o'r un bru ydym."

Ond cyrhaeddai "deddf datblygiad" i Lanaber, ac un tymor, penderfynodd yr "arweinwyr " gynnal "Cyfarfod Llenyddol " ar nos Nadolig. Yr oedd hynny yn beth newydd ar y ddaear, a chlywsom fod rhywrai yn gwrthwynebu'r ymgais. Dyna hanes pob drychfeddwl newydd. Y mae'n aflonyddu ar ddefod ac arfer. Ond ni ellir atal y llanw. Ffurfiwyd Pwyllgor a threfnwyd y rhaglen.

Cwrdd lleol ydoedd i fod, ac nid oedd un o'r testunau'n "agored i'r byd." Lleol oedd y beirniaid, ac eithrio beirniaid yr adrannau cerddorol a barddonol. Yr oedd yn rhaid i'r rheiny fod yn wŷr adnabyddus drwy Gymru benbaladr, a dewiswyd Eos y Ffrwd i gloriannu'r cerddorion a Gwilym Hiraddug i ddal y fantol gyda'r beirdd. Fe ddichon nad oedd y rhaglen yn boddhau pawb. Ac un rheswm ydoedd, bod rhai o'r enwogion lleol wedi