eu cau allan. Y mae'n sicr na wnaethid hynny'n fwriadol. Fe ddichon nad oedd gwaith cyfaddas ar eu cyfer. Ond, rhywfodd, felly y bu. Dewiswyd gwraig y Siop i feirniadu'r "Pâr Hosanau du'r ddafad"; John Llwyd y Teiliwr i feirniadu'r "Twll Botwm "; William Parri'r Saer i feirniadu'r "Llwy Bren," a Robert Huws y Bugail i feirniadu'r "Ffon Ddraenen." Ac felly yn y blaen. Cynrychiolid pob crefft a galwedigaeth yn y fro ar y rhaglen ac eithrio un.
'D oedd neb wedi enwi Sadrac Jones. Sut y digwyddodd hynny? Buasai'r peth dan sylw'r Pwyllgor, fel y deallwyd wedyn, ond methwyd â chael testun i ffitio galwedigaeth Sadrac Jones. Yr oedd y "Twll Botwm" yn taro i'r dim i'r teiliwr, ond ni fuasai "gwadnu esgid " yn destun y gallesid disgwyl cystadleuaeth arno. Nid oedd crydd arall yn y fro, ac ni fuasai'n briodol ei roddi yn "agored i'r byd."
Ni faliai Sadrac Jones ei hun ddim am yr anffawd, ond dywedai Nansi Owen ei barn hi yn eithaf difloesgni. Pa reswm oedd rhoi enw John Llwyd yn y Raglen? Nid oedd wedi bod yn Llanaber ond am ryw ddwy flynedd a Sadrac Jones wedi bod yno ar hyd ei oes."
Ond digwyddodd rhywbeth cyn y Nadolig oedd i newid y drefn, ac i godi Sadrac Jones uwchlaw rhandir y "Twll Botwm" a'r "Llwy Bren." Daeth gair i hysbysu bod Gwilym Hiraddug, y beirniad barddonol, wedi ei daro'n wael, ac na allai gloriannu'r cyfansoddiadau. Galwyd y Pwyllgor ynghyd, a mawr fu'r dyfalu beth a ellid ei wneud. Yr oedd yn rhy ddiweddar i alw'r gystadleuaeth yn ol. Cododd un brawd i gynnyg enw Sadrac Jones.