PENNOD XIII.
"Y TLWS ARIAN."
'NGHLENNIG I!--dyna'r ymadrodd atseiniai trwy bentre Llanaber ar ddydd cynta'r flwyddyn newydd. Nid oedd neb yn rhy hên na rhy falch i weiddi "Calennig," a'r cyntaf i weiddi ar ei gymydog a hawliai'r wobr. Ni fwynhâi pawb mo'r oruchwyliaeth honno, mwy nag unrhyw oruchwyliaeth arall sydd yn tybied rhoddi yn hytrach na derbyn. Eithriadau oedd y bobl hynny, ond gwyddai'r plant amdanynt, ac aent o'r tu arall heibio. Dyna ddedfryd y plant, mynd heibio'r drws, heb weiddi "Nghalennig i," a dywedai hynny gryn lawer am nodwedd y preswylwyr.
Ond yr oedd gweithdy Sadrac Jones yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar fore dydd Calan. Nid un neu ddau fyddai'n gweiddi, ond torf o blant, â'u lleisiau'n diaspedain tros y fro. Cymerai'r "Calennig" wahanol ffurfiau. Cacennau a melysion a geid yn y rhan fwyaf o'r tai. Ond meddyliai Sadrac Jones yn wahanol.
"Yr ydach chi wedi cael digon i'w fwyta yn ystod y Gwyliau," ebr ef, pan anerchai'r gynulleidfa fywiog oddi ar garreg y drws. "Ni ŵyr neb ohonoch am eisiau bwyd, a ŵyr?"
"Na ŵyr, Sadrac Jones."
"Y perigl ydyw fod rhai ohonoch wedi bwyta gormod. Ond cofiwch hyn,—os ydych am fod yn blant da, rhaid i chi ymroi ati i ddysgu, dysgu darllen a dysgu meddwl. A dyna ydw i am roi yn 'Galennig' i chwi, nid 'teisen' nac 'India-roc,' ond llyfr