newydd. Dyma fo. A wnewch chi addo ei ddarllen a'i gadw'n lân?"
"Gwnawn."
"Codwch eich llaw. John Puw, wnei di gyfri'r dwylo?" (John yn gwneud).
"Deg ar hugain, Sadrac Jones."
O'r gorau. Ddaru ti dy gyfri dy hun?" "Naddo, mi anghofiais."
"Well i ti wneud. Faint ydi'r rhif yn awr?" "Un ar ddeg ar hugain."
Ie, ond rhag i ti fod yn odd number, mi alwaf ar Nansi Owen."
"Fuasech chwi yn leicio cael llyfr yn bresant, Nansi Owen?"
"Mae'n dibynnu sut lyfr fydd o, Sadrac Jones."
"Wel, ei enw ydi'r Tlws Arian, gan Tegidon."[1] "
"Rhoswch am funud, Sadrac Jones. Onid y fo a wnaeth y gân gampus honno, 'Hên Feibil Mawr fy Mam'? Mi glywais hên bregethwr o Sir Fôn—yr ydw i'n meddwl mai Owen Rolant oedd ei enw—yn canu 'Hên Feibil Mawr fy Mam' ar ddiwedd yr oedfa nes oedd pawb yn crio'n hidl. Beth ydi enw'r bardd, Sadrac Jones?"
"Tegidon—un wedi ei fagu ar ymyl Llyn Tegid."
"Felly'n wir. 'D oes dim byd sal wedi dwad o'r Bala, er bod ambell i stiwdent digon tila yn dwad yma ar y Sul. Ond y mae Doctor Edwards yn medru rhoi rhywbeth ynddyn' nhw, os caiff o chware teg."
Wedi hynny estynnodd Sadrac Jones gopi newydd spon danlli o'r Tlws Arian, yn gyntaf oll i Nansi Owen, ac yna i'r bechgyn o gwmpas y drws. A
- ↑ John Phillips (Tegidon 1810-1877), Y Tlws Arian, Wrecsam, Hughes a'i fab 1860