Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"chalennig" i'w gofio ydoedd hwnnw. Yr oedd ei enw'n dlws, a'i gynnwys yn dlws i gyd. Enillodd un neu ddau o'r bechgyn hynny "arian-dlws " mewn cystadleuaeth ar ol hynny. Ond annwyl yn eu golwg ydyw y Tlws Arian a dderbyniwyd o law Sadrac Jones ar drothwy blwyddyn sydd wedi ymado i'r distaw dir. Y mae'r Tlws Arian yn aros ymhlith llyfrau Cymru. Fe ddichon bod rhywrai yn ei gyfrif yn "hen ffasiwn" erbyn heddiw. Ond, yn sicr, y mae bendith ynddo i blant oes newydd na ŵyr nemawr am Degidon ac eraill o awduron hawddgar y ganrif a fu. **** Ond heblaw'r Tlws Arian, y mae peth arall sydd wedi peri i'r flwyddyn honno gadw ei gwyrddlesni ar lenni atgof. Buasai brwydr addysg yn bwnc y dydd yn Llanaber—yr ymrysonfa galed rhwng yr hên a'r newydd. Yn y gorffennol cedwid math o ysgol ddydd mewn ystafell berthynol i'r capel. Gweinidog oedd yr athro, a chyfunai ef wahanol orchwylion, megis pregethu, ffarmio a chadw ysgol. Yn yr adeg honno ni allai'r ysgol ddydd ei gadw ef. Cynhelid hi trwy roddion gwirfoddol, a rhoddion lled fychain oedd y rheiny ar y gorau. Ysgol ddigon cyffredin ydoedd, ysgol at "iws gwlad." Ond wedi'r frwydr, daeth tro ar fyd. Adeiladwyd ysgoldy yn y pentre, ac yr oedd eisiau "athro trwyddedig" i ofalu am addysg y plant. Daethai'r hên oruchwyliaeth i ben. Mawr y disgwyl am weled y "sgŵl newydd." Dywedid ei fod yn sgolor dan gamp, wedi bod yn y Coleg, ac yn gwybod popeth. Yr