oedd cryn bryder ym meddyliau'r mamau a'r plant. Tybed yr arferai'r wialen? Un ffeind iawn oedd yr hên athro. Ni fyddai rhaid i un o'r plant ond cŵyno ei fod yn sâl, cai gennad i fynd adre ar ei union. A phan fyddai plentyn wedi anghofio'r home-lesson, byddai iddo fod ar neges dros ei fam yn esgusawd digonol. Ni orweithiai'r hên athro mo ymenyddiau'r plant, ond yr oedd ganddo ddawn arbennig i argraffu pethau ar eu cof. Beth am y dyn newydd? Tipyn yn geidwadol oedd pobl Llanaber gyda materion o'r fath. Yr oedd dieithrwch yn faen tramgwydd. Ond credai Sadrac Jones, fel arfer, mewn symud ymlaen gydag addysg a phopeth da. Ni fynnai ef ddychryn y plant, na chreu rhagfarn yn eu calonnau.
"Mi fyddwch wrth eich bodd," meddai, "efo'r athro newydd. Mae o wedi ei gymhwyso i gyfrannu addysg, ac arnoch chwi bydd y bai oni ddowch yn wybodus. Y mae bron yn amhosibl i un dyn fod yn ffarmwr ac yn ysgolfeistr. Buasai'n llawn mor hawdd i ddyn fod yn grydd ac yn deiliwr."
Nid oedd pawb mor selog dros addysg â Sadrac Jones. Oni ddaethai Hwn-a-Hwn ymlaen yn y byd heb gael ond "chwarter o ysgol."
Ond yr oedd y cyfnod newydd—fel llanw'r môr—yn dod i mewn, ac ar ei frig daeth yr athro newydd.