Yr oedd un ran ohono ar ffurf clochdy a "cheiliog gwynt" ar ei ben! Ni symudai'r ceiliog ddim. Ni allai. Pren bocs oedd ei ddeunydd. Ond troai pawb a ai heibio i edrych arno, a rhyfeddent at fedr y perchennog.
Trin y cerrig oedd ei orchwyl: trin yr ardd oedd ei bleser. Ond yr oedd mwy o ddelw'r ardd a'r blodau ar ei fywyd nag o ddelw'r cerrig a dorrai ar fin y ffordd. Gwyddai sut i hollti'r garreg, ac yr oedd celf yn ei ddull o ddefnyddio ei forthwyl. Awyddai ambell hogyn ysgol am " dreio ei law."
"Gaf i gynnyg torri'r cerrig yma, Mathew Dafis?"
'Cei, machgen i. Mi gaf innau gymryd fy anadl am funud neu ddau."
Ond methu y byddai'r bachgen er taro'n drwm. Ni ildiai'r mo'r garreg ddim.
"Nid yn y taro y mae'r dirgelwch," ebr Mathew Dafis. "Y mae eisiau dallt sut, a lle i daro, a rhaid iti ddysgu peth felly. Ond gwell i ti ddysgu dy wers yn yr ysgol, ac yna mi gei rywbeth gwell i'w wneud na thorri cerrig."
"Fuo chi'n hir yn dysgu eich gwaith, Mathew Dafis?"
"Wel, a deud y gwir, dysgu yr ydw i o hyd. Ar y dechrau mi fyddwn yn taro'n rhy drwm, ac yn torri coes y morthwyl wrth dreio torri'r garreg. Ond mi ddois i ddallt bob yn dipyn mai nid nerth braich ac ysgwydd ydi popeth. Weli di'r garreg yma? Daswn i yn ei gosod fel hyn, ni thorrai o gwbl. Ond wedi ei throi fel yma " (cnoc, a dyna'r garreg yn hollti'n llyfn a hwylus).