Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVI.
DYDDIAU PRYSUR.

LLED farwaidd fyddai pentre Llanaber ym misoedd y gaeaf, ond ar drothwy Ebrill gwelid arwyddion o ddeffroad. Adeg brysur ar bob crefftwr yno fyddai'r Groglith a'r Pasg. Byddai eisiau cael rhywbeth newydd ar gyfer dyfodiad gwyliau'r gwanwyn. Gellid gwneud yn weddol gyda'r hên bethau yn ystod y dyddiau byrion a'r nosweithiau tywyll. Ni sylwai neb rhyw lawer ar y dillad na'r esgidiau y pryd hynny. Ond yr oedd yn rhaid cymryd pethau o'r fath i ystyriaeth pan fyddai'r dydd yn ymestyn, a'r haul yn dangos pethau yn eu lliw a'u llun priodol. Onid oedd y coed a'r gerddi yn gweddnewid bob dydd, a phopeth yn gwisgo newydd-deb a harddwch? Nid dilyn y ffasiwn" yr oedd pobl Llanaber yn y dyddiau gynt, ond dilyn Natur, ac ni ellid gwneud hynny yn weddus heb gael dillad newydd ac esgidiau newydd. Dywed Glasynys yn un o'i ganeuon fod Anian yn Ebrill yn gwisgo "esgid feillion am ei throed." Ond ni thalai'r esgid ysgafn honno i gerdded llwybrau'r wlad. Oherwydd paham byddai cyrchu mawr i weithdy Sadrac Jones cyn dyfod gŵyliau'r Pasg.

Dyna'r siars bendant ar yr aelwyd, "Cofia di fynd at Sadrac Jones yfory i gael mesur dy droed."

"Ond mi fesurodd y nhroed i'r llynedd."

"Eitha' gwir, ond y mae'n siwr fod dy droed di wedi tyfu er hynny. Y mae blaenau dy fysedd bron â thorri drwy'r esgidiau. Cofia di ddeud wrtho fo am eu gwneud nhw yn ddigon o faint y tro nesaf."