Ond i ni oedd yn adnabod Sadrac Jones nid oedd angen dim yn rhagor na "mesur y troed." Deallai ef ei waith, a deallai ei gwsmeriaid. Ac ymddiriedai pawb yn yr ardal yn ei onestrwydd a'i farn. A phan ddeuai rhywun anghyfarwydd i'r ardal, â thipyn o fursendod yn ei eiriau, ni byddai'n hir heb ddod i ddeall nad cydnaws ag annibyniaeth Sadrac Jones oedd goddef i neb ei "batroneisio " ynglŷn â'i alwedigaeth. Credai mewn prynu'r defnyddiau gorau, a rhoddai yntau'r gwaith gorau. Golyga hynny amser dyladwy i orffen y gwaith. Nid oedd Sadrac Jones yn berchen y ddawn i greu esgidiau, ac ni fynnai addaw ond yr hyn y gallai yn rhesymol ddisgwyl ei gyflawni. Ac am hynny gwrthodai gymhellion taer i wneud esgidiau ar yr "unfed awr ar ddeg."
"Os oes arnoch eu heisiau erbyn y Pasg ni allaf gymryd yr ordor. Y mae gennyf gymaint ag a allaf ddod i ben â nhw."
"'D oes dim i'w wneud ond mynd i'r dref am bâr ready made," dywedai'r cwsmer.
"Fel y mynnoch am hynny," dywedai Sadrac Jones; "ond cofiwch mai gwerthu am arian parod y mae siopau'r dre."
Newidiai hynny'r rhagolygon. Ychydig fyddai'n arfer talu "ar law" i Sadrac Jones. Dyna arfer gwlad y pryd hynny,—y gwas fferm yn addo talu wedi derbyn ei gyflog am yr hanner blwyddyn, a'r ffermwr ei hun yn addo setlo'r bil wedi gwerthu'r bustych yn ffair Wyl Ifan, neu ryw landmark o'r fath yn ystod blwyddyn. Ond ni roesai Sadrac Jones na