gwas na morwyn erioed yn llys y mân—ddyledion. phan fyddai gweithiwr ynghanol trafferthion byw, a'i
"Dylwyth yn wyth neu naw,"
ni soniai Sadrac Jones ddim am ei ddyled.
"Mi gei dalu fel y medri di, John, ond pan fydd ar rai o'r plant acw eisiau pâr o esgidiau, tyrd yma fel arfer. Mi gei dy gefn atat yn y man, a daw'r plant i'th helpu dithau."
Ond trethai dyfodiad gwyliau'r Pasg amser ac amynedd Sadrac Jones. Câs beth oedd ganddo wrthod cais, ond yr oedd yn ormod o foneddwr i "dorri ei air." Gweithiai yn galed o fore i hwyr, a Nansi Owen yn "tendio" arno yn ddyfal, rhag iddo syrthio i wendid. Ond wedi iddo orffen y pâr olaf o esgidiau ar gyfer y Groglith byddai fel dyn wedi dod allan o'r caethiwed, llawenychai yn ei ollyngdod am ennyd o afaelion caledwaith hir.
"A glywodd rhai ohonoch y gog eleni?"
"Naddo, Sadrac Jones, ond dywedai Gruffudd Ffridd Wen iddo ei chlywed wrth fynd i nol y gwartheg bore ddoe."
Felly wir. A ddowch chwi am dro bore fory i edrych ydi'r peth yn wir? Mi awn i gyfeiriad y mynydd. Canodd un o'r beirdd yn glws iawn am y gog,—
'Pwy feddyliai canai cog
Mewn mawnog yn y mynydd.'
"Ond mewn lle felly y mae hi'n arfer canu, ac yno y clywir hi gynta' yn y rhannau hyn o'r wlad."
Ac felly yr aem yng nghwmni Sadrac Jones i'r ffriddoedd pell i glywed y gog. Arferai ofalu am