Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geiniog i bob un ohonom i'w rhoddi yn ein llogell cyn cychwyn. A oedd Sadrac Jones yn ofergoelus? Mae'n debyg ei fod ar rai pethau. Onid ydyw pawb felly i raddau, os addef y gwir? Onid gwell gennych weld dwy frân nag un ar y ffordd yn y bore? Ai diystyr gennych pa ran o'r oen bach cyntaf a welwch yn y gwanwyn fydd nesaf atoch? A oes rhywbeth yn y traddodiad fod bod â cheiniog yn y llogell pan glywir deunod y gwcw—y gwcw gynta—ar fore o wanwyn mwyn yn ernes o ddedwyddwch? Barned y doeth a'r deallus. Ond er dyddiau Sadrac Jones hyd heddiw gwell gennym ei chlywed â'r geiniog yn ein llogell.

Ac os digwyddai na byddai'r gog wedi cyrraedd at ei chyhoeddiad mewn "mawnog yn y mynydd," ond odid na fyddem wedi darganfod nyth aderyn yn rhywle ar ein ffordd adref.

Ac os deuem ar draws nyth yn y drain, gwisgai Sadrac Jones ei spectol er mwyn cael golwg ar yr ŵyau.

Pwy a ddysgodd i'r aderyn wneud ei nyth, a'i wneud yr un fath drwy gydol y blynyddoedd? Y mae gwaith dyn yn newid.

"Crydd oedd y nhaid," ebr Sadrac Jones, "ond 'd ydw i ddim yn gwneud esgid heddiw fel y byddai ef. Ond gwna'r deryn du ei nyth eleni fel yr oedd yng ngardd Eden."

"Sut y gwyddoch chi fod yno aderyn du, Sadrac Jones?"

"Fuase'r ardd honno ddim yn Eden heb nyth aderyn. Ac mi welais ddarn o farddoniaeth rywdro yn deud bod rhai o'r adar bach wedi gofyn am