ganiatad i fynd efo Adda ac Efa wedi eu gyrru o Baradwys, ac wedi mynd yn gwmni iddynt yn yr anialwch. Hwyrach mai ffansi ydi peth fel yna, ond y mae yn glws iawn. Ac yn rhyfedd iawn, mi gewch nyth aderyn mewn lleoedd digon diffaith a llwm.
Erbyn heddiw gwelir Easter eggs o waith celfyddyd yn ffenestri'r siopau. Ond yn nyddiau Sadrac Jones gwelid "wyau'r Pasg" yn daclus mewn nyth aderyn, ac yno y gadewid hwy mewn gobaith y deuent yn gywion bach" cyn hir. O! hên weledigaethau mwyn:
"Daeth aderyn bychan arall
A'r lâs gangen yn y coed."
PENNOD XVII.
AR DROTHWY'R HAF.
PE digwyddai etholiad ynglŷn â misoedd y flwyddyn, pa un a gawsai'r nifer mwyaf o bleidleisiau? Wrth feddwl am y peth yng ngolau'r dyddiau fu, ac yn ol syniad plant y wlad, braidd na chredwn mai'r ymgeisydd llwyddiannus fuasai mis Mai. Yr oedd mor boblogaidd gyda phob gradd. Ac os byddai'r hin yn lled afrywiog yn Ebrill—"gwynt a glaw yma a thraw"—edrychai'r bobl siaradai am y tywydd yn ddoeth, a dywedent, "Mi ddaw'n braf yn union. Mae mis Mai yn dod."
"Daw clymu, daw Clamai,
Daw cywion gwyddau bach."
<br