Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhaid byw yn y wlad i fedru deall pethau o'r fath. Onid ar gangau'r helyg gyda glan yr afon y gwelid y "cywion gwyddau bach"; a ninnau'n torri cangen. wrth fynd adre o'r ysgol i'w dangos i Sadrac Jones? Siriolai ei lygaid.

"Ie, wir, dyma nhw. Oes rhywbeth tlysach na'r rhain? Daw Clamai, a'r cywion gwyddau bach."

"Be ydi 'Clamai,' Sadrac Jones?"

"Wel, mi wyddoch beth ydi dydd Calan."

"Gwyddom; y dydd cyntaf o'r flwyddyn."

"Ie, siwr; a chalan Mai ydyw'r dydd cyntaf o haf. Cyfrifid o'n ddiwrnod gŵyl ers talwm. Cariai'r llanciau a'r lodesi gangau haf' yn eu dwylo, a chyfarfyddent ar y weirglodd i ddawnsio—dawnsio haf."

"Welsoch chi hynny?"

"Naddo, yr oedd yr arferiad wedi darfod ffordd yma ymhell cyn i mi fedru cofio. Ond mi glywais y nhaid a nain yn sôn yn ddifyr am y peth."

"Dase'ch chi'n fachgen yr adeg honno, fuasech chi'n dawnsio, Sadrac Jones?"

"Wn i ddim wir. Yr oeddwn i mor sionc ar fy nhraed ag unrhyw hogyn yn yr ardal yma, ac mi fedrwn redeg fel y gwynt. Ond mae llawer ffordd i chwi i'ch mwynhau eich hunan heblaw efo rhyw gampau o'r fath.

Gwnewch yn fawr o'ch cyfle. Mynnwch weld prydferthwch mis Mai. Hwyrach y caf hamdden i ddwad am dro efo chi un o'r dyddiau nesaf. Dowch a'r sgrin' ymlaen at y ffenest yma. Ie, dyna hi. 'Rwan, chwiliwch am ddarnau barddonol sydd yn sôn am fis Mai."