Gall Rhagfyr gynrychioli rhyddiaith y misoedd, ond urddwyd mis Mai yn fis yr awen a'r gân.[1]
"Mai ddynesa fel arlunydd
Uwch adfeilion gaeaf du,
Gyda'i bwyntel y tyn ddarlun
Haf, ar fynwes dôl a dyffryn;
Adnewyddir anian gu.
****
Casglwn dalaith frith o flodau,
Plethwn hon gylch ei arleisiau,
Dawnsiwn dan y deiliog bren."
PENNOD XVIII.
PENTRE'R PLANT.
HYD y gwyddom nid ysgrifennodd neb lyfr ar hanes pentre tawel Llanaber. Dichon mai un rheswm am hynny ydyw nad oes iddo hanes eithriadol mewn unrhyw gyfeiriad. Ni chafodd y fraint o fod yn lle genedigol i neb a ddaeth yn enwog yn ei ddydd a'i oes, fel y digwydd i ambell bentre gwledig yng Nghymru. Rhyw bentre "diddrwg didda" ydoedd, heb nemawr hynodrwydd na bri. Beth oedd ei oedran? Sut y daeth yn bentre o gwbl? Gallesid tybied mai yr adeilad cyntaf a godwyd yn y fangre oedd eglwys y plwyf. Yr oedd honno yn hên ac oedrannus yr olwg arni. Gwelid hynny ar agwedd y muriau a'r clochdy, y coed yw yn y fynwent, a'r coffa syml ar y cerrig beddau. Rywsut, fe dyfodd