Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyn," a feddai fwyaf o atyniad. Dynes sengl oedd Jane Jones, hynod o dwt a glân. Yr oedd ganddi ddawn i bobi a chrasu bara, a hwnnw yn "fara gwyn." Dyna oedd "moethau" yr ardal yn y dyddiau hynny. Fel rheol, bara haidd neu fara cymysg, fyddai ar y bwrdd; ond pan ddisgwylid rhywun "diarth" anfonid ar frys i siop Jane Jones i ymofyn y "bara gwyn." Eithr nid am fara yn unig yr oedd y siop honno yn enwog. Ei gogoniant i'r plant ydoedd y ffenestr lle dangosid y melysion," neu "fferins," yn iaith y fro. Yno yr oedd gingerbread wedi ei wneud ar lun ceffyl, ac wedi ei ymylu ag aur melyn. Yn y canol yr oedd y "minciag," a'r "losengis" mawr, â rhyw eiriau mwyn wedi eu gosod arnynt. Sawl gwaith y safasom o flaen y ffenestr honno, yn disgwyl i Jane Jones ddyfod i'r drws i ofyn,

"Wnei di fynd â'r dorth yma i dŷ Mary Tomos? Mae hi yn disgwyl ei modryb yno i de."

Nid oedd eisiau iddi ail ofyn. Gwyddem yr estynnai i ni ddarn o "finciag " neu gingerbread wedi i ni ddod yn ol.

Coffa da am Santes y "bara gwyn." Yr oedd yn ffeind dros ben. Rhoddodd lawer o'r "fferins " wneud negesau.

Gobeithio bod y bara gwyn wedi dwyn elw iddi. Ychydig o brofit a wnaeth ar y gingerbread. Rhannai ormod i'r plant.

Ac wedi i blentyn gael llafn o finciag am gario'r "bara gwyn" i dŷ cymydog, mawr fyddai'r awydd ymhlith y plant eraill am gael "siâr " ohono. Ond yr oedd yn rhaid gwneud "bargen" deg. Math o exchange oedd honno am nifer o "farbles" neu rywbeth arall.