Rhyfedd yr amrywiaeth o bethau a gedwir yn llogell bachgen. Y mae fel museum ar raddfa fechan—marbles, cyllell, pêl, llinyn, a "stirmant," neu chwibanogl. Nid oedd y cwbl yn nwyddau marchnadol. Ni fuasai yr un bachgen yn meddwl am roddi ei gyllell am ddarn o finciag. Nid oedd neb yn berchen pwrs, oherwydd nid oedd arnom ddim angen amdano. Yr oedd y llogell yn ddigon at gadw'r ychydig geiniogau a ddeuai i'n rhan. Ond digwyddai weithiau fod twll yn y llogell, ac ai'r geiniog ar goll. Felly y bu gydag Ifan Tŷ Coch. Cawsai geiniog am fynd â llythyr i ffermdy rhyw filltir o'r pentre. Rhoes hi yn ei logell, ond wedi iddo gyrraedd yn ol at siop Jane Jones nid oedd hanes amdani. Yr oedd twll yn ei logell. Dychwelodd ar hyd y llwybr troed i chwilio yn ddyfal am y geiniog a gollwyd, ond yn gwbl ofer. Daeth yn ol ar hyd y "ffordd fawr," wedi anobeithio'n llwyr. Cerddai â'i ben i lawr, ac er ei syndod gwelai geiniog yn ymyl carreg ar fin y ffordd. Nid oedd neb yn y golwg, a chododd hi. Mawr oedd ei lawenydd, a braidd nad aeth i ymffrostio am y peth.
"Do, mi gollais geiniog," meddai, " ond yr oedd popeth yn iawn. Mi ges geiniog arall. Dyma hi."
"Ie," meddai Sadrac Jones, "ond paid di a thrysio gormod i beth fel yna. 'D ydi o ddim yn debyg o ddigwydd eto. Gwell i ti edrych mewn pryd a ydyw dy boced yn saff. Ffol ydyw disgwyl y cei di geiniog ar lawr bob dydd."
Ond nid oedd raid i Sadrac Jones bryderu rhyw lawer yng nghylch pethau o'r fath. Ychydig o "geiniogau " a welem yn y dyddiau hynny. Telid i