ni am wneud neges mewn ffordd arall, afal o'r ardd gan ambell un, a darn o "fara brith" gan Miss Harris y Persondy. Hi a ofalai am gysuron yr "Hen Berson," fel y gelwid ef. Nid oedd yn hên o ran yr olwg arno—dim hynach na Sadrac Jones. Ac edrychai'n well nag ef. Gŵr glandeg â bochau cochion, ac yn gwisgo "het silc" bob amser oedd y person. Adwaenai blant Llanaber i gyd, er nad ai ond ychydig ohonynt i'r "eglwys." Ni phasiai yr un bachgen ar y ffordd heb ofyn cwestiwn iddo, a hwnnw fel rheol yn gwestiwn o'r Beibl. Ni allem ei ateb ar y pryd.
"Gofynnwch i'ch tad wedi mynd adref," meddai Mr. Harris, "a chaf wybod gennych pan gwrddwn y tro nesaf."
A phed ai cryn amser heibio cyn iddo ein gweled drachefn, byddai'n sicr o gofio'r cwestiwn.
"Beth oedd nifer cenedl Israel pan gychwynnai o'r Aifft?" Ac os gallem ateb yn gywir, dyna gwestiwn arall, "Pa nifer ohonynt a gyrhaeddodd i Wlad yr Addewid?"
Rhyw lyfr bychan Cymraeg fyddai ei wobr ef. Daethom i fedru gwerthfawrogi hwnnw ymhen blynyddoedd ond ar yr adeg honno rhoddem y flaenoriaeth i'r "bara brith," am fynd â'r neges i Miss Harris.
Buom heibio'r Persondy wedi llawer blwyddyn, ac yr oedd popeth wedi newid. Ond wrth sefyll yn ymyl y llidiart dychmygem weld Miss Harris a'i gwallt gwyn, a'i gown du, yn tafellu'r "bara brith."