Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIX.
YMWELWYR.

Yn ystod misoedd yr haf deuai ymwelwyr ar eu tro i bentref Llanaber. Nid oeddynt yn perthyn i'r dosbarth hwnnw o gymdeithas fydd i'w gweld ar lannau'r môr. Yn y dyddiau hynny ni ddychmygai neb am gyfnod y modur a'r charabanc. Mae'n debyg y gwibia'r cyfryw bethau trwy Lanaber heddiw. Ni wyddom hyd sicrwydd. Awn yno, ambell dro, yng ngherbyd breuddwydion, a gwelem y lle fel yr ydoedd yn nyddiau difyr Sadrac Jones. Nid dod yno i fwynhau'r golygfeydd, neu i geisio adferiad iechyd y byddai'r "ymwelwyr " y cofiwn yn dda amdanynt. Perthynai eu neges hwy yn nes i'w "galwedigaeth," os gellid ei galw felly.

Yn eu plith yr oedd y "Sipsiwn." Deuent hwy bob blwyddyn, er na wyddid o ble. Eisteddai Nansi Owen yn ffenestr y llofft, a hysbysai Sadrac Jones yn y gwaelodion fod teulu "Abram Wood" yn dod dros Bont y Ddôl. Byddem ninnau'r plant yn gwybod am y peth, ac aem i ben y clawdd i'w gweld yn pasio, dwy neu dair o garafannau llwythog, yn cael eu tynnu gan hên geffylau teneuon, â'r dynion yn llewys eu crysau yn cerdded yn hamddenol tua'r pentre. Yr oedd ganddynt le arferol i wersyllu ar ddarn o dir wâst yn agos i'r afon. Ni warafunai neb iddynt, ac ni wnaent hwythau ddim i beri colled i'r ardalwyr. Gwerthent eu nwyddau o ddrws i ddrws—basgedi, carpedau a llestri alcan. Tynnai eu gwisgoedd sylw, lliwiau crand, a chadwyni tlysion am eu