Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyddfau. Dywedai Sadrac Jones eu bod yn perthyn i'r llwyth parchusaf ymhlith y Sipsiwn, ac yn meddu eiddo mawr, ond bod yn well ganddynt fyw yn yr awyr agored na byw mewn tai, fel pobl eraill. Cymerai rhai o'r pentrefwyr olwg wahanol ar eu bywyd crwydrol, a chyfrifent hwy yn " baganiaid," am nad aent i "lan na chapel." Ond yr oedd eu hymddygiad yn weddus, ac yn foneddigaidd. Fe ddichon y gallasai y rhai a'u beirniadai ddysgu gwers ganddynt yn y peth hwnnw. A hwyrach ein bod ninnau wrth adrodd yr hanes yn cymryd golwg rhy eithafol ar y Sipsiwn. Yr oeddym, ac yr ydym, yn edrych arnynt trwy lygaid Sadrac Jones. Rhoddai ef air da iddynt bob amser. Dangosent hwythau yn amlwg eu bod yn meddwl yn barchus amdano yntau. Deuent i'r gweithdy fin nos, a medrent siarad Cymraeg yn well na llawer a fagwyd yn Gymry uniaith. Ni fedrent ddarllen y darnau barddonol oedd wedi eu "pastio ar y sgrîn, ond dywedent fod ganddynt hwythau ganeuon yn eu hiaith eu hunain. Ac wedi siarad ar draws ac ar hyd, tynnai un o'r Sipsiwn y ffidil oedd yn llogell fawr ei got laes allan, a gofynnai,—

"Gawn ni roi tiwn, mistar?"

"Rhoswch am eiliad gael i mi gadw'r pethe yma, a'm gwneud fy hun yn barod."

Wedi diosg ei ffedog ai Sadrac Jones i'r gadair yn ymyl y ffenestr agored, a dyna'r ffidil yn dechrau siarad. Hwyrach mai canu a ddylasem ei ddweud, ond siaradai yr un pryd. Beth oedd yr iaith ni allwn fynegi, ond ai pethau rhyfedd drwy ein meddyliau. Erbyn heddiw credwn mai adrodd hanes bywyd y Sipsiwn" yr oedd y "ffidil" honno. Ymdoddai'r