Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hindda a'r storm, y llon a'r lleddf i'w gilydd, cân aderyn ac ochenaid y gwynt, murmur afon a'r awel yn y coed. Gwrandawai Sadrac Jones fel dyn mewn gweledigaeth, a threiglai deigryn dros ei rudd. Craffai'r "Sipsiwn" arno, ac yn y man newidiai'r cywair, a chanai'r ffidil ryw fiwsig hoyw, ysgafndroed nes ein gwefreiddio.

Gwrandawai Nansi Owen yn y llofft uwch ben, ac yn ystod yr adeg y cenid y miwsig hoyw clywid ei chadair yn symud, a sŵn troed yn cadw step â'r miwsig. Tybed fod Nansi Owen wedi anghofio ei helbulon i gyd, ac yn dawnsio ar lawr y llofft?

"Peidiwch a sôn gair wrthi am y peth," ebe Sadrac Jones. "Codai'r ffidil yna awydd dawnsio ynof finnau, ond fedrwn i ddim."

Yr oedd Sadrac Jones yn ffrind i'r Sipsiwn, a phe buasai'n fyw hyd heddiw, credwn y buasai yn edmygydd diderfyn o Gipsy Smith, gŵr sydd yn falch o'i dylwyth, ac wedi sŵyno miloedd â'i barabl a'i gân.

Ond o blith yr ymwelwyr haf fe ddichon mai tylwyth gwahanol oedd yn fwyaf derbyniol gan bobl Llanaber. Delio mewn llestri pridd y byddent hwy, padelli, cawgiau, a phethau at wasanaeth y tŷ. A chan gofio, rhyw fath o "gyfnewid " oedd eu dull cyffredin o wneud busnes. Cludent eu nwyddau mewn trol ysgafn-" trol a mul," fel y dywedid, a'r gair Saesneg hawker wedi ei baentio ar ei hystlys i ddangos eu bod yn talu trwydded.

Eu harfer oedd cyfnewid y llestri pridd am hên ddillad wedi darfod eu dydd, a chrwyn cwningod. Treulid peth wmbreth o amser i ddadlau am y pris ar Q garreg y drws. Gwastreffid llawer o ddawn, ond yr hawkers fyddai'n cario'r dydd. Nid oedd fawr o groeso i'r dosbarth hwnnw yng ngweithdy Sadrac Jones. Pobl anniddorol oeddynt iddo ef, ac mor amddifad o awen â'r llestri pridd a gludid ganddynt ar hyd a lled y wlad. Rhoddai ef y flaenoriaeth i'r "Sipsiwn," a rhyfedd oedd hynny ar ryw olwg. Dyn diwyd, gweithgar oedd ef, yn byw'n rheolaidd a threfnus, ond yr oedd rhyw ramant yn ei enaid, a dyna, o bosibl, a esbonia ei hoffter o gymeriadau allan o'r ffordd gyffredin. Tybed fod un o'i hynafiaid wedi bod yn fardd teulu, neu yn delynor crwydrol? Pam y cai baledwr ar ei ymdaith o'r naill ffair i'r llall groeso ac ymgeledd o dan ei gronglwyd? Dyna'r ffaith, beth bynnag oedd yr esboniad. Bu yn Samaritan trugarog i lawer un nad ystyriai'r cymdogion ei fod yn werth sylw. Ond meddyliai Sadrac Jones yn garedig am y sawl oedd yn berchen awen, neu yn gwybod am fiwsig.

A oedd hyn yn wendid ynddo? Os felly aeth amryw o'r bechgyn fu dan ei addysg yn y gweithdy yn debyg iddo yn ddiarwybod. Ni allant wrando dyn crwydr yn chware ffidil ar y stryd heb fynd i'r drws a rhoddi ceiniog yn y casgliad.

Ac wrth wneud felly, daw'r atgof am "ffidil" y dyddiau gynt—the fiddle of dreams.