Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llyn yr Hafod. Yr oedd o'n lle diguro am frithylliaid ers talwm. Ddowch chi?"

"Y mae gen i waith wedi ei addo

" 'Debyg iawn. Y mae gen innau waith hefyd, ond rhaid i ni gael ambell awr i orffwys neu fedrwn ni ddim dal ati. Taflwch yr esgid o'r neilltu a gwnewch eich hun yn barod."

Yr oedd Nansi Owen wedi bod yn clustfeinio, ac wedi tynnu dillad gorau Sadrac Jones allan o'r drôr.

Aeth yntau i'w ystafell i ymwisgo, a'r Doctor yn cerdded ol a blaen.

"Un gair," meddai yn ddistaw wrth Nansi Owen. "Gofelwch fod y tecell yn berwi erbyn y down yn ol. Mi fydd arno fo eisiau bwyd arswydus."

"O'r gorau," ebe Nansi Owen. "Ac mi fydd hynny yn beth go newydd yn ei hanes o, ers talwm."

Wedi cael Sadrac Jones i'r cerbyd eisteddodd Doctor Wyn yn ei ymyl, cymerodd yr awenau o law'r bachgen, a throes at Nansi Owen,

"P'nawn da. Mi ddown yn ol rywbryd cyn nos."

Safodd Nansi Owen â'i phwys ar y llidiart bach. "Un rhyfedd ydi Doctor Wyn," meddai. "yr oeddwn yn disgwyl ei glywed yn sôn am ffisig, ond ddaru o ddim."

Sylwai pobl y pentre ar y cerbyd yn mynd trwodd, a holent ei gilydd.

"Beth sydd yn bod? Sadrac Jones yn ei ddillad gorau, ac yng ngherбyd Doctor Wyn."

"Raid i chi synnu dim," ebe cymydog. "Edrychai Sadrac Jones yn gymaint o ŵr bonheddig â'r Doctor ei hun."