Beddargraff merch dduwiol.
Delw gwir Dduw cyn dylaith—oedd arni,
Yn addurniant perffaith;
A daw o'r llwch du—oer, llaith,
Ar ddelw gwir Dduw eilwaith.
David Hugh Jones (Dewi Arfon )
Beddargraff merch dduwiol. (2)
Erys i fewn lawer oes faith, —er hyn
Nid rhaid bod heb obaith:
Duw i'w gol a'i dwg eilwaith,—
Casgl ei llwch o'r cysgle llaith.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Beddargraff Morwr.
Yn mhwll angau mae llongwr—yn gorwedd,
Heb gareg yn wyliwr:
O! bydd, wendon, heb ddwndwr
Ar ei fedd yn araf, ddw'r!
Thomas Tudno Jones (Tudno)
Beddargraff Morwr ieuanc.
Diangodd o'r môr am weryd—lawr oer;
A thaflai, 'r un enyd,
Angor i fôr yr ail fyd—
I ddwfr y porthladd hyfryd.
David Hugh Jones (Dewi Arfon )
Beddargraff Mr. O. Barlwyd Jones, Ffestiniog.
Dyna Barlwyd o dan berlau—y gwlith
A gwlaw ein teimladau;
Un gwell ni chafodd ei gau
Yn nyffryndir hen ffryndiau.
John Ceiriog Hughes (Ceiriog)
Beddargraff Mrs. David Evans, Tremadog.
Lleni ei thywell anedd—a rwygir
Ryw foregwaith rhyfedd;
A daw hon, mewn gogonedd,
Heb liw bai, ac heb ol bedd.
Richard Roberts (Bardd Treflys)
Beddargraff Mrs. Ellen Thomas,
Turnpike, Dyffryn, Capel Curig.
Gwraig gywir, eirwir, orau—o filoedd,
Felus ei thymherau:
Syrth i'r bedd bob rhinweddau
Oni chaiff hon ei choffhau.
Robert Roberts (Moelwyn Fardd)