Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (4)
Ei law arweiniai luoedd—i weled
Ymylon y nefoedd:
Nerth fu i'n hareith faoedd,
A gloew sant ein heglwys oedd.
John Ceiriog Hughes (Ceiriog).
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (5)
Wele'r fan, dywell anedd,—y llwm lawr,
Lle maluria mawredd:
O! oer wir ro'i i orwedd
Angel y byd yn nghlai bedd.
Pwy yw'r Awdwr?
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (6)
Yn ei ddwyster Ai'n ddistaw,—a swynai
Bob synwyr i'w wrandaw:
Codiad ei lygad a'i law
Ro'i fil drwy'r dorf i wylaw.
T. Pierce, Llynlleifiad.
Beddargraff y Parchedig John Jones, Talysarn,
yn mynwent Eglwys Llanllyfni.
Clogwyni—coleg anian—wnaeth ryfedd
Athrofa i Ioan:
Ai yn null gwron allan:
Mawr wr Duw—rho'es Gymru ar dan!
David Hugh Jones (Dewi Arfon).
Beddargraff y Parchedig Robert Thomas, Llidiardau,
Hynotaf blentyn natur:—eithriadol
Bregethwr od, ffraethbur:
Os ai ef i bant ar antur,
Bwrlymai o'r pwll berl mawr, pur!
David Hugh Jones (Dewi Arfon).
Bedd Dewi Wyn o Eifion
Dyna fedd Dewi Wyn, a fu—ben bardd,
Heb neb uwch yn Nghymru;
Ond, ple mae adsain cain, cu
Tinc enaid Dewi'n canu?
Ebenezer Thomas (Eben Fardd).
Bedd hen wraig hoff o'r Beibl.
Gair Duw oedd ei gwir duedd,—ar Iesu
Y rho'es ei gorfoledd
Hyd farw; ac nid oferedd
Rho'i "Gwraig bur" ar gareg ei bedd.
Richard Davies (Mynyddog).