Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Croesawiad Bulkeley Hughes, Ysw., A.S. i'r Deheudir, yn
adeg Eisteddfod Abertawe, 1863

I Forganwg, o fro Gwynedd, —gwresog
Groesaw, uchel fonedd:
Rhedem, dros dy anrhydedd—
Buckley Hughes—i wyneb cledd!

Thomas Jones (Taliesin o Eifion)


Croes Crist


Nid crog odidog, dywedaf,—ond hon,
O tani'r ymgrymaf:
I hon yr ymfoddlonaf
Gras i gyd o'r Groes a gaf.

John Roberts (Siôn Lleyn)



Cryd, Y

Cread myg yw'r Cryd magu,—i ddyn bach
Ddwyn ei bwys dan gysgu;
A'r fam lân, ar gân lon, gu,
A'i throed yn sigl weithredu.

John Thomas (Ifor Cwmgwys)



Cryd, Y (2)

Cwch un bach yn cychwyn byw—yn hafan
Nefol mebyd ydyw;
A Duw, mewn cariad menyw,
Yn nerthol lyn wrth ei lyw.

John Hughes (Ioan Môn), Llangefni.



Cryd, Y (3)

Gwely'r oes, cyn croes, yw y Cryd:—adwy
I Eden ein bywyd:
Ond, ynddo ef cawn hefyd,
Ddarlun y bedd ar lan byd.

Dewi Peris Jones, Clwtybont.



Cryd, Y (4)

Y Cryd hoff, llawn cariad yw—ei iesin
Gynwysiad digyfryw:
Uwch ei ben y rhydd menyw
Dlos hun—gân i'w baban byw.

William Roberts (Gwilym Eryri)



Cryd, Y (5)

Mwyn wely'r fam i'w hanwylyd:—hen gist
Hwian gerdd ein mebyd:
Cronfa i suo y crynfyd;
A chwagle bach i siglo byd.

Thomas Jones (Taliesin o Eifion)