Daniel yn ffau'r llewod
Daniel—gwas y Duw hynod, —wyt ti'n fyw
Eto'n y fath drallod ?
Frenin, clyw! wyf fyw am fod
Dau lywydd ar dy lewod!
William Roberts (Gwilym Aran.)
Daniel yn ffau'r llewod (2)
Gwêl Daniel dan glo dynion yng ngharchar,
Rhwng erchyll beryglon:
Llu dof yw'r llewod hyfion,
Ac wele reddf dan glo'r Ion.
Thomas Jones (Tudno)
Daniel yn ffau'r llewod (3)
Eiddo Duw, mae'n hawdd deall, —yn y ffau,
Oedd hwn o ffydd ddiwall:
Gwylia, ddyn, ryw egwyl, ddall
Hyderu mewn duw arall.
William Jones (Alwenydd)
Daran, Y
Llais Ior o'i freinllys eirian,-a'i erchyll
Gyfarchiad, yw'r Daran:
Bryfyn pridd gan ymddiddan,
Fry, â thi, mewn dwfr a thân!
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd}}
Daran, Y (2)
Enyniad, fry, yn anian,-o orlawn
Awyrlif a gwefrdan,-
A thrwst rhuthriad tyniad tân
Drwy y dw'r,-ydyw'r Daran.
John Williams (Ioan Madog)
Daroganiad y bardd yn y flwyddyn 1850
Codais, ymolchais yn Mon:-bu ryfedd,
Boreufwyd Caerlleon:
Pryd gosper ddoi'n y Werddon:
Prydnawn wrth dan mawn yn Mon.
Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd (Robin Ddu Ddewin)
"Da yw i mi fy nghystuddio."
Tan gur, mewn tonau geirwon,—minau wyf
Yma'n yfed loesion,
A phoenau blin, o ffynon
Cerydd y caruaidd Ion.
Robert Eidiol Jones (Eidiol Môn)