Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fi fy hun, ac am fy airs, chwedl fy nhad, wn i ddim sut i ddangos y ngwyneb i neb, a mae gen i y fath g'wilydd nes ydw bron a marw! Meddyliwch be ddeidiff pobol! y fath sport wna nhw o hononi ni! A fedra i byth 'u beio nhw am hyny. Chysges i winc dan saith o'r gloch y bore, a 'rydw i'n credu y mod wedi meddwl mwy neithiwr am bethe y dylaswn i fod wedi meddwl am danyn nhw o'r blaen nag a feddylies drwy fy holl oes, a 'rydw i'n gobeithio y mod i yn dipyn callach nag y bum i 'rioed."

"Mae'n dda gen i dy glywed di'n siarad fel ene, Susi. 'Roedd gen i ofn mai rhyw ymollwng a thori dy galon a faset ti. Yn wir, mae dyn yn cael help yn rhyfedd, ond 'rydw i'n ofni dy fod di wedi cymyd atat yn ormod o lawer y peth a ddeudodd dy dad neithiwr. Mi ddeidiff dyn yn 'i ffrwst bethe na ddyle fo ddim, ac mae'r calla'n colli weithie. Erbyn i dy dad 'sbonio i mi neithiwr a bore heddyw, dydw i ddim yn gwel'd y bydd raid i ni—yn ol fel mae pethe'n edrach—newid dim ar y'n ffordd o fyw, achos mae isio i ni gofio pwy yden ni o hyd, a bydde ni'n altro mi maen ddrwg i dy dad ac i ni'n hunen, a mi ai pobol i siarad yn bethma am danon ni. 'Does ene harm yn y byd bod yn gall, fel 'roeddet ti'n sôn, ac hwyrach y dylen ni dreio peidio bod cweit mor strafigant, ond, hyd y gwela i, 'does dim isio i ni altro yn ein ffordd o fyw, eto, beth bynag."

"Pa ole ydach chi wedi gael, mam, ar y pethe ddeudodd y nhad neithiwr? A sut 'roedd o'n 'sbonio am fod mor gâs hefo chi? Ai swp o glwydda oedd y cwbl ddeudodd o?"

"Nage; nid dyn i ddweyd' celwydd ydi dy dad, a phaid a gadel i mi dy glywed di'n siarad fel ene eto. Mi wyddost o'r gore mod ine wedi cael y nychrynu a mrifo efo'r peth ddeudodd o. A mae amgylchiade, weithie, yn newid mewn 'chydig oriau. Pan oedd dy dad yn siarad neithiwr 'roedd bron wedi d'rysu efo cymin ar i feddwl. A mi fum yn synu lawer gwaith fod o heb dd'rysu, a rhaid fod ganddo synwyr mwy na dyn i fedru dal y cwbwl. Ië, fel 'roeddwn i'n deud, 'roedd hi'n edrach yn ddu iawn arno fe. Ond mi ddoth Mr. Huws, Siop y Groes, yma, a mae Mr. Huws am joinio dy dad i gael gwaith mein newydd, a mae gen' i barch calon iddo, a mi dreia ddangos hyny hefyd. 'Rydw i bob amser yn deud mai dyn clên iawn ydi Mr. Huws, ac erbyn i mi feddwl, 'rydw i'n synu bod