Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni wedi gwneud can lleied o hono fo. Ddaru mi fawr feddwl mai Mr. Huws fase ffrynd pena' dy dad. Er i mi glywed mai fo ydi'r siopwr gonesta'r dre, 'ddaru mi rywsat 'rioed ddelio efo fo, ond yno 'rydw i am ddelio'r cwbwl o hyn allan, wired a mod i'n y fan yma. Erbyn meddwl, mae'n rhyfedd fod Mr. Huws heb briodi, achos 'roedd dy dad yn deyd fod o'n gefnog iawn. Ond ddyliwn na ddaru'r dyn ddim meddwl am briodi, ne, mi wn, y base'n dda gan ambell un i gael o'n ŵr."

"'Rydw i'n methu gwel'd, mam, os bydd gan ddyn lawer ar i feddwl p'am y dyle hyny neud iddo siarad yn gâs ac insulting efo neb. 'Roedd y nhad yn ffiedd o gâs efo chi a fine neithiwr, a 'roeddwn i'n credu y fod o'n feddw ne'n d'rysu yn i synwyre. Ond 'roedd o ddim yn feddw, ne fase fo ddim yn gallu myn'd dros hanes i fywyd mor fanwl."

"'Rydw i'n cyfadde, Susi, na chlywes 'rioed mo dy dad yn siarad 'run fath, ac ar y pryd mi ddaru mrifo i'n arw. Ond 'rydw i'n madde'r cwbwl iddo ar ol i glywed o'n 'sbonio 'i hun. Yn wir, mi fase'n werth i ti glywed o bore heddyw 'n deyd i deimlad—rodd yn ddrwg gyno fo. Wydde fo ddim be i neud iddo fo'i hun. Chlywes i neb erioed—hyd yn oed yn seiat—yn deyd ei brofiad yn fwy rhydd a melus. Wrth sôn am y seiat, mi fase'n dda gen' i bydase dy dad yn fwy rhydd yn seiat, fel 'rydw i wedi deyd wrtho lawer gwaith. Mae ganddo ddawn at hyny, a mi fydde'n drêt i glywed o, a mae isio mwy o hyny yn y dyddie yma, yn sicir ddigon."

"Mi fydde gan y nhad brofiad rhyfedd."

"Bydde, wel di, a mi fydde. Mae o wedi gwel'd cymin, ac wedi cymysgu cymin efo pobol annuwiol, ac wedi cael ei demtio gymin gan y byd, y cnawd, a'r diafol, fel 'roedd o'n deyd, ac eto wedi cael nerth i ddal trwy'r cwbwl."

"Be bydae o'n digwydd deyd y profiad a gawson ni ganddo neithiwr, mam?"

"Paid a siarad yn wirion, da ti. Mi wyddost o'r gore nad oedd dy dad ddim fel y fo'i hun neithiwr, a 'rydw i'n fecsio nghalon na faset ti'n i glywed o'n rhoi rheswm am bobpeth. 'Roedd yn biti gen i glywed o mor edifeiriol, a 'roedd ganddo 'Sgrythyr ar bobpeth. Ond dene oeddwn i yn myn'd i ddeyd —rhaid i ni neud yn fawr o Mr. Huws, achos 'roedd dy dad yn deyd y bydde'r cwbwl yn dibynu arno fo wrth gychwyn y gwaith newydd, gan fod Mr. Huws mor gefnog. Ond mi