Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofaliff dy dad, mi wn, i Mr. Huws gael 'i arian yn 'u hol gydag interest

"Os oes gan Enoc Huws arian, fel y mae'n ddiame fod, mi faswn i yn ei gynghori i gymeryd gofal o honynt, mam."

"Llawer wyddost di am fusnes. Be ddoe o'r byd, fel y clywes i dy dad yn deu'd, bydae pawb yn cadw 'u harian a neb yn meutro. Ac wyt ti'n meddwl fod dy dad a Mr. Huws mor wirion a dechre gwaith newydd a gwario'u hariau, oni bae bod nhw'n siwr y can' nhw'u harian yn ol a llawer chwaneg?"

"Mi wn hyn, mam, nad oes gan y nhad, yn ol ei eiriau ei hun, ddim arian i'w gwario na'u colli, ac os bydd Enoc Huws yn ddigon dwl i godlo efo gwaith mein y bydd yntau yn fuan yr un fath, neu mae'n rhyfedd gen i."

"Be sy arnat ti, dywed? on'd oes ene lawer wedi 'u gneud yn fyddigions wrth fentro?"

"Oes, dyna Hugh Bryan a 'William Denman! "

"Nage, nid Hugh Bryan a William Denman, er mor sharp yr wyt ti! Rhaid i rwfun golli, ne mi fydde pawb yn fyddigions. A mi glywes dy dad yn deyd nad oedd gan Hugh Bryan ddim busnes i fentro."

"Ie, ar ol iddo wario'r cwbwl."

"Arno fo 'roedd y bai am hyny; a be wydde dy dad faint oedd i gwbwl o."

"Gwydde o'r gore."

"Dyma ti, Susi; bydae dy dad yn dy glywed di'n siarad fel ene, mi gnocie dy ben di yn y pared! "

"Mi gnocie beth digon gwâg yn y pared, byd a'i gwyr."

"Wyddost di be, Susi, 'rwyt ti'n siarad fel ffwl! "

"Thank you, mam," (Susan yn crïo'n hidl).

"Susi, mae'n ddrwg gen i mi arfer y gair ene. Paid a chrïo a bod yn wirion. Ond yn wirionedd mae rhw gyfnewidiad rhyfedd wedi dod drostot ti : Chlywes i 'rioed monot ti o'r blaen yn siarad yn anmharchus am dy dad. Mi wyddost na fu rioed glyfrach tad na gwell tad, a mae o'n y mrifo i fwy nag a fedra i ddeyd dy glywed di'n siarad fel ene. Gweddïa am ras i wel'd dy ffolineb, y ngeneth bach i. Mi wn fod gynot ti flys wastad, bydae ti'n gwbod sut, rhoi Hugh Bryan ar draws danedd dy dad, a 'rydw i'n meddwl y gwn i'r rheswm am hyny, ond 'roeddwn i'n credu fod ti bron annghofio y gwiriondeb hwnw."